NEWYDDION |
|
Dydd Iau, 4 Rhagfyr, dechrau am 6pm. Bydd Siôn Corn yn cyrraedd Wrecsam ar Drên Gwên a bydd y Groto ar agor tan 7.30pm y noson honno.
|
|
Caiff caeau chwarae yn Wrecsam eu diogelu dan gynllun newydd gan Gyngor Wrecsam a’r elusen Fields in Trust. Bydd menter newydd ‘Owain Glyndŵr’ yn gweld diogelu a gwella lleoedd agored yn Y Waun, Johnstown ac Wrddymbre fel y gall plant ac oedolion fel ei gilydd chwarae arnynt am genedlaethau i ddod.
|
|
Mae Tîm Safonau Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymuno â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth CO a drefnwyd gan CO-Awareness.
|
|
Naw deg o flynyddoedd yn ôl ar unfed awr ar ddeg yr unfed diwrnod ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg, tawelwyd y gynnau a daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i’r ben o’r diwedd. Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn nodi dyddiad y Cadoediad gydag arddangosfa ar-lein newydd ‘Gwell Angau na Chywilydd.’
|
|
Diweddarwyd y safle: 21 Tachwedd 2008
|