Beth yw porthyddion RSS?
Ystyr RSS yw 'Really Simple Syndication'. Mae RSS yn eich caniatáu i gael gwybodaeth yn rhwydd pan fydd arnoch ei angen. Er enghraifft, mae mwy o wefannau'n darparu dolenni i wahanol rannau o'u gwefannau sy'n eich helpu i ddod o hyd i eitemau'n gyflym sydd naill ai'n ychwanegiadau i'r safle neu sy'n rhai newydd sbon.
Defnyddio RSS
Mae sawl modd i gysylltu â phorthiant RSS y mae gwefan yn ei ddarparu:
- drwy glicio ar yr eicon seren yn IE7,
- drwy glicio ar yr eicon Oren ar ochr dde gwaelod Firefox,
- clicio'r eicon RSS Glas ar y bar cyfeiriadau yn Opera,
- neu drwy ddefnyddio darllenydd newyddion RSS os ydych yn defnyddio Internet Explorer neu borwr arall.
Rhaid ichi danysgrifio i borthiannau RSS cyn y medrwch eu darllen. Maent ar gael am ddim ac ni chofnodir gwybodaeth am y tanysgrifiwr. Yn dibynnu ar y modd y byddwch yn darllen y porthiannau, gallant ymddangos naill ai mewn dewislen Nod Tudalen, neu mewn rhaglen darllenydd newyddion a osodwyd (gweler isod).
I ychwanegu porthiant RSS i'ch porwr neu ddarllenydd newyddion, cliciwch ar y ddolen RSS ar y dudalen neu torrwch a phastiwch y ddolen i'ch darllenydd newyddion.
Pa borthyddion RSS sydd ar gael ar y wefan hon?
Adnoddau defnyddiol
Dyma rai darllenwyr newyddion argymelledig:
- Windows: Newz Crawler - http://www.newzcrawler.com/
- Feed Demon - http://www.newsgator.com/Individuals/FeedDemon/Default.aspx
- Awasu - http://www.awasu.com/ (Am ddim)
- Mac: Newsfire - http://www.newsfirerss.com/
- NetNewsWire - http://www.newsgator.com/Individuals/NetNewsWire/
- BottomFeeder - http://www.cincomsmalltalk.com/BottomFeeder/
- Linux: Liferea - http://liferea.sourceforge.net/
- BottomFeeder - http://www.cincomsmalltalk.com/BottomFeeder/
- Straw - http://www.nongnu.org/straw/index.html
- Porwr: Pluck - http://www.pluck.com/







