Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar sut y gallwch weld y wefan hon wedi’i chyfieithu i ieithoedd eraill.
Darperir y wefan hon drwy’r Gymraeg a’r Saesneg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydych yn edrych ar fersiwn Gymraeg y wefan ar hyn o bryd. Cyswlltwch â’r fersiwn Saesneg yma.
Gellir gweld y wefan hon mewn 8 iaith arall drwy ddefnyddio’r cyfleusterau a ddarperir am ddim gan Google ac Alta Vista.
Dewiswch yr iaith dan sylw isod a bydd y wefan yn cael ei chyfieithu i’r iaith honno. Bydd oediad byr tra bydd y cyfieithiad yn digwydd.
Cyswllt at wybodaeth ynghylch arddangos ieithoedd eraill
trwy eich porwr gwe
Ieithoedd eraill: |
||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Almaeneg >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Corëeg >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Eidalaidd >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Ffrangeg >> | ||
| Cyfiethu wrecsam.gov.uk - Iseldireg >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Portiwgaleg >> | ||
| Cyfiethu wrecsam.gov.uk - Rwsia >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Saesneg >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Sbaeneg >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Siapaneaidd >> | ||
| Cyfieithu wrecsam.gov.uk - Tsieineaidd >> | ||
Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu cywirdeb y cyfieithiadau a ddarperir gan Google ac Alta Vista.
Os ydych yn ceisio arddangos tudalen o’r we wedi’i hysgrifennu mewn iaith arall, ac nid yw’r llythrennau cywir yn ymddangos yn awtomatig (yn aml iawn bydd blychau sgwâr, yn lle’r llythrennau cywir), yna mae angen i chi ddiweddaru eich porwr gwe gyda’r ffeiliau cefnogi iaith briodol.
Os ydych yn defnyddio Internet Explorer, mae angen i chi fynd i View > Encoding > More ac yna dewis yr iaith rydych am ei defnyddio.
Os nad yw cefnogaeth ar gyfer yr iaith hon eisoes wedi’i gosod ar eich CP, bydd bocs yn ymddangos yn gofyn i chi lawrlwytho’r ffeiliau perthnasol oddi ar wefan Microsoft.
Dylech wneud hyn a byddant fel arfer yn sefydlu eu hunain ar eich CP, ond weithiau bydd gofyn i chi roi eich CD system gweithredu yn y gyrrwr CD hefyd.
Efallai bydd angen i chi ailgychwyn eich CP.
Os ydych chi’n defnyddio porwr Netscape, bydd angen i chi fynd
i View > Character Set a dewis yr iaith rydych am ei defnyddio.
Nid oes modd arddangos rhai llythrennau Cymraeg trwy feddalwedd pori gwe presennol. Ar hyn o bryd, mae meddalwedd pori gwe yn defnyddio llythrennau ISO Latin-1. Nid yw set llythrennau ISO Latin-1 yn cynnwys y llythrennau canlynol:
W acen grom (W^)
w acen grom (w^)
Y acen grom (Y^)
y acen grom (y^)
Mae ein fersiwn Gymraeg o’r wefan hon yn cynnwys y llythrennau heb yr acen grom. Mae llythrennau eraill y Gymraeg YN cael eu cynnwys gan yr ISO font, felly nid ydynt yn cael eu heffeithio.