|
Wrecsam yw prif dref Gogledd Cymru. Lleolir Wrecsam ychydig filltiroedd yn unig o ffin Cymru/Lloegr ac fe'i cydnabyddir yn eang fel prif ddinas a phrif ganolfan fasnachol yr ardal. Mae Wrecsam o fewn taith dwy awr i draean o boblogaeth y DU a hanner ei diwydiannau cynhyrchu.
Cyfarwyddiadau i Wrecsam o’r gogledd
O'r gogledd ewch ar yr M56 tuag at Warrington
- Ar gyffordd 15 yr M56 / cyffordd 11 yr M53, trowch i'r chwith (de-ddwyrain) ar yr M53 am 2.9 milltir tuag at Caer
- Ar gyffordd 12 yr A56 (de-ddwyrain) ewch ar hyd yr A55 am 5.6 milltir. Tuag at Queensferry
- Ar y gyffordd, trowch i'r chwith (tuag at y de) ar yr A483 am 7.2 milltir tuag at Wrecsam
- Ewch oddi ar yr A483 yng nghyffordd 6 tuag at yr A534 Nantwich ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
- Yn y gylchfan, cymerwch y drydedd drofa sef yr A5152 Ffordd Caer i'r de tuag at Ganol y Dref am 1.3 milltir (2.1km)
- Yn y gylchfan nesaf (ar waelod yr allt) cymerwch y drydedd drofa (yn syth ymlaen) ar yr A5152 Ffordd Caer i'r de am 0.3 milltir (0.5km)
- Ewch yn syth ymlaen yn y goleuadau traffig.
- Yn y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail drofa (yn syth ymlaen) sef Stryt Caer am 0.1 milltir.
- Ar ôl 0.1 milltir (0.2km) - mae maes parcio'r Byd Dwr ar yr ochr chwith, a meysydd parcio Llyfrgell Wrecsam a Neuadd y Dref ar yr ochr dde.
yn ôl i'r brig
Cyfarwyddiadau i Wrecsam o’r de
Ewch ar hyd yr A483 tuag at Wrecsam. Ar ôl cyrraedd Wrecsam
- Ewch oddi ar yr A483 ar gyffordd 6 tuag at Nantwich ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
- Yn y gylchfan cymerwch y chweched drofa sef yr A5152 Ffordd Caer i'r de tuag at Ganol y Dref am 1.3 milltir (2.1km)
- Yn y gylchfan nesaf (ar waelod yr allt) cymerwch y drydedd drofa (yn syth ymlaen) ar yr A5152 Ffordd Caer i'r de am 0.3 milltir (0.5km)
- Ewch yn syth ymlaen yn y goleuadau traffig
- Yn y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail drofa (yn syth ymlaen) sef Stryt Caer am 0.1 milltir.
- Ar ôl 0.1 milltir (0.2km) - mae maes parcio'r Byd Dwr ar yr ochr chwith a meysydd parcio Llyfrgell Wrecsam a Neuadd y Dref ar yr ochr dde.
yn ôl i'r brig
Cyfarwyddiadau i Wrecsam
Mae'r ddogfen yma gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cyfarwyddiadau i Wrecsam - fersiwn Word 331Kb
Cyfarwyddiadau i Wrecsam - Fersiwn PDF 215Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|