Ymdrinnir â chwynion ynghylch y gwasanaethau cymdeithasol yn unol â’r rheoliadau statudol. Defnyddir y Weithdrefn Gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol os ydych yn ddefnyddiwr gwasanaeth sydd â chwyn ynghylch naill ai’r Gwasanaethau i Oedolion neu i Blant. Os ydych yn gwneud cwyn ar ran berthynas neu ffrind, efallai byddwn yn gofyn am eu caniatâd.

Os yw eich cwyn ynghylch plentyn neu oedolyn sydd wedi cael eu niweidio neu eu cam-drin, bydd hyn yn cael ei ymdrin yn unol â’r gweithdrefnau diogelu oedolion a phlant perthnasol.

Nid yw Gweithdrefn Gwyno'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn weithdrefn apeliadau. Dylai unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch mater y mae'r llys yn ei ystyried, gael ei godi yn y llys. Byddem yn eich annog i gael cyngor cyfreithiol yn yr amgylchiadau hyn.

Sut i anfon cwyn

Gallwch anfon cwyn trwy’r ffurflen ar-lein ar Fy Nghyfrif (bydd angen i chi gofrestru gyda Fy Nghyfrif yn gyntaf os nad ydych wedi gwneud eisoes).

Cyflwyno cwyn ar-lein

Dechrau

 

Cysylltwch â ni

Y ffordd gyflymaf a’r hawsaf o gyflwyno cwyn yw defnyddio’r ffurflen ar-lein. Fel arall, gallwch gysylltu â’r tîm Cwynion drwy’r ffurfiau isod:

E-bost: cwynion@wrexham.gov.uk

Y Tîm Cwynion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

Gweithdrefn Gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae dau gam i'r Weithdrefn Gwyno'r Gwasanaethau Cymdeithasol:

Cam Un (Datrysiad Lleol)

Cewch gyfle i drafod eich cwyn gyda rheolwr tîm o fewn 10 diwrnod o ddyddiad y caiff y gwyn ei gydnabod. Bydd hyn naill ai mewn cyfarfod personol neu dros y ffôn.

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y problemau yn cael eu datrys ar y cam hwn. Unwaith y byddwch chi a’r rheolwr tîm wedi cytuno ar sut y bydd eich cwyn yn cael ei ddatrys, byddem yn ysgrifennu atoch o fewn 5 diwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl yr ymateb, gallwch wneud cais bod y mater yn cael ei drosglwyddo i Gam Dau.

Cam Dau (Ymchwiliad Ffurfiol)

Bydd unigolyn annibynnol yn cyflawni’r ymchwiliad – sef unigolyn sydd ddim yn cael ei gyflogi gennym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

Rôl y Swyddog Ymchwilio Annibynnol yw:

  • adolygu holl ddogfennaeth sydd yn berthnasol i’r gwyn
  • cyfweld â’r holl bobl berthnasol
  • cynhyrchu adroddiad yn datgan eu canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion

Bydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu atoch gyda’u hymateb, a fydd yn cynnwys copi o’r adroddiad ymchwilio.

Dylai’r broses hon fod wedi’i chwblhau o fewn 25 diwrnod gwaith o’r dyddiad cychwyn a gytunwyd i’ch ymchwiliad.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad eich cwyn yn dilyn ymchwiliad ffurfiol, gallwch gwyno'n uniongyrchol i Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus:

Dolenni perthnasol

Dogfennau