|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i Ofal Cwsmer. Fel rhan o'n hymdrech i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, mae angen i ni wybod pan fo gennych gwyn.
Hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch sut i wella'n gwasanaethau neu os cewch chi unrhyw anhawster wrth ddefnyddio unrhyw wasanaethau neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am sut y gallwn helpu.
Sut i gysylltu â'ch Cyngor lleol
Beth i'w wneud os ydych chi'n anfodlon ag un o wasanaethau'r Cyngor?
Y cam cyntaf yw cysylltu â'r staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â hyn. Gellir gwneud hyn naill ai drwy siarad â'r rheolwr perthnasol neu drwy ysgrifennu atynt a dweud wrthynt am y broblem.
Fel arall, gellwch gwblhau'r ffurflen sylwadau a chwynion arlein.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn trefn wahanol. Cysyllter â'r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer ar 01978 292007 neu 0800 5876708.
Yn dal i fod yn anfodlon?
Os byddwch chi'n anfodlon â'r modd yr ymdriniwyd â'r gwyn neu â'r canlyniad, cysylltwch â'r swyddog cyswllt perthnasol yn unol â'r manylion a geir yn y daflen hon.
Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr pwy yw'r swyddog cyswllt perthnasol, cysyltwch â'r Swyddog Cwynion Corffedig ar 01978 292201, a fydd yn falch i fod o gymorth.
Os na fydd y mater wedi'i ddatrys yn foddhaol, dylech gysylltu â'r Swyddog Cwynion Corfforedig a fydd yn ymchwilio i'r gwyn ymhellach.
Sut ydw i'n cwyno i'r Ombwdsman?
Os na fyddwch yn fodlon â chanlyniad y gwyn, gellwch gwyno'n uniongyrchol i:
Public Services Ombudsman for Wales
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffon: 01656 641150
Ffacs: 01656 641199
e-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk
Sylwadau
Os hoffech wneud awgrym ynghylch sut y gallwn wella, neu os hoffech ein hysbysu am rywbeth a wnaed yn dda, gadewch i ni wybod drwy gysylltu ag un o'r cynrychiolwyr a restrir.
|