Gwrandewch ar ein Gwefan. Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyflwyno’r cyfleusterau i gynorthwyo hygyrchedd i’n gwefan i’r rheiny sydd ag anawsterau darllen.
Gwrando ar ein GwefanGallwch wrando ar dudalennau o’n gwefan gan ddefnyddio Dixerit Plus. Cliciwch ar y testun “gwrandewch ar y wefan hon” ar frig unrhyw dudalen a bydd y bar offer Dixerit Plus yn ymddangos.
Gwrando ar y wefan hon gyda Dixerit Plus
Mae sawl ffordd o wrando ar dudalen.
Rhowch y llygoden dros y paragraff yr ydych am wrando arno a chliciwch icon y paragraff a ymddengys.
Amlygwch y testun yr ydych am wrando arno a chliciwch yr icon “Darllen Testun”
Cliciwch yr icon “Darllen Dolenni” i glywed pob dolen ar y dudalen. I ddilyn y ddolen rhowch ei rhif yn y blwch “Ewch” a chliciwch “Ewch”
Mae rhaglen ddarlen Dixerit Plus yn gweithio gyda systemau gweithredu Microsoft Windows, Apple Mac a GNU/Linux ac mae wedi ei brofi’n helaeth gyda’r systemau gweithredu a’r porwyr mwyaf poblogaidd.
Ar gyfer defnyddwyr Mozilla Firefox a Linux awgrymwn eich bod yn defnyddio MozPlugger fel chwaraewr cyfryngau. Dosberthir MozPlugger gyda Thrwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU a gellir ei gael o http://mozplugger.mozdev.org/ (external link).
Mae Dixerit Plus hefyd yn gweithio gyda systemau gweithredu Apple Mac (OS9 a hwyrach) ac wedi ei brofi’n helaeth gyda Safari.
Mae angen system gweithredu Microsoft Windows ar y feddalwedd ychwanegol a ddarperir fel rhan o Dixerit Plus - WebRead, Magnifier a Contrast. Dylai defnyddwyr systemau gweithredu Linux ac Apple Mac ddefnyddio’r feddalwedd hygyrch am ddim sydd ar gael er eu platfform, gan gynnwys y Zoom mewnol yn OS-9 ac OS-X, a Gnopernicus yn Linux.
Mae ein chwyddwydr yn caniatáu i chi chwyddo eich sgrin hyd at 32 gwaith yn fwy na’i maint arferol, ac mae hyn yn ddelfrydol os oes gennych anhawster yn darllen testun bach. I ddechrau’r Chwyddwydr, cliciwch ar yr eicon ar unrhyw dudalen ac arddangosir y bar offer dixero. Cliciwch ar eicon y chwyddwydr, a dechrau’r feddalwedd gan ddewis lefel y chwyddhad sydd mwyaf cyfforddus i chi.
Am ragor o help i ddefnyddio’r Chwyddwydr, defnyddiwch y cyfleuster Help yn y rhaglen drwy glicio ar y ddewislen Help, neu ewch i dudalen help Dixerit Magnifier (dolen allanol).
Mae ein teclyn cyferbynnu yn caniatáu i chi roi arlliw i’ch sgrin. Gall hwn fod o unrhyw liw a disgleirdeb. Os ydych yn ei chael yn anodd darllen testun ar y sgrin oherwydd disgleirdeb neu oherwydd diffyg cyferbyniad lliw, gall y teclyn hwn wneud darllen yn haws. I’w ddechrau cliciwch yr eicon cyferbynnu ar unrhyw dudalen a bydd y bar offer dixero yn ymddangos. Cliciwch ar yr eicon cyferbynnu a dewis y lliw a lefel y dwysedd sydd mwyaf cyfforddus.
Am ragor o help i ddefnyddio cyferbynnu defnyddiwch y cyfleuster help drwy glicio ar y ddewislen help, neu ewch i dudalen gymorth Dixerit (dolen allanol).