Mae Parc Gwledig Bonc yr Hafod yn gorchuddio bron i 90 acer o goetir a glaswelltir. Mae’r parc ar safle Pwll Glo Hafod ac mae bryn mawr yno, sydd wedi’i enwi yn 'fynydd picnic' gan y trigolion lleol.

Ynghyd â Pharc Stryd Las, mae’r parc yn ffurfio rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Johnstown. Mae’r statws gwarchod cryf hwn wedi’i roi oherwydd y boblogaeth o Fadfallod Dŵr Cribog sy’n byw yn y parc a’r cyffiniau. Mae'r Fadfall Ddŵr Gribog yn brin yn ei chynefinoedd naturiol yng Ngogledd Ewrop, fodd bynnag mae’r ardaloedd o dir isel o amgylch Wrecsam yn gadarnle i’r amffibiad hwn. 

Mae Hafod yn barc sy’n gyfoeth o fathau eraill o fywyd gwyllt hefyd, yn cynnwys gwas y neidr, neidr y glaswellt, y bwncath, y cudyll coch a’r ehedydd. Yn yr haf, mae'r parc yn llawn blodau gwyllt, gan gynnwys y tegeirian brith cyffredin a meillion traed adar, ac yn yr hydref, mae’r coetir yn llawn ffwng.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae maes parcio ger Ffordd Hafod, ar ymyl dwyreiniol y parc, sy’n cysylltu â’r rhwydwaith o lwybrau cerdded yn y parc.

Cŵn

Croesawir cŵn ym Mhonc yr Hafod ond rhaid iddynt gael eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Cerdded

Llwybr cerdded cylch lefel isel Hafod

Ar wahân i’r bryn bach ar ddechrau’r llwybr, mae’r daith gerdded hon yn un wastad o amgylch troed y bryn. Mae’n mynd â chi heibio i byllau magu’r Fadfall Ddŵr Gribog, dolydd blodau gwyllt a thrwy goetir. Mae’r cyfarwyddiadau isod yn tybio eich bod yn cychwyn o'r maes parcio. Os ydych yn dymuno cerdded ar hyd y llwybr o fynedfa Ffordd Gwalia, dechreuwch ddarllen o bwynt 4 ac yna daliwch i ddarllen y cyfarwyddiadau o bwynt 1.

1. Gadewch ochr bellaf y maes parcio a dilynwch y llwybr i fyny’r bryn, cyn cymryd y troad cyntaf ar y dde.

2. Mae’r llwybr yn mynd drwy goetir derw cyn gostwng a chyrraedd llwybr gydag arwyneb cerrig. Dilynwch y llwybr ar hyd y pyllau dŵr a'r ffos, sef safle magu'r Fadfall Ddŵr Gribog. Mae’r rheilffordd ar y dde yn cario lein yr Amwythig hyd at Gaer.

3. Ewch i’r chwith cyn y giât fawr a dilynwch y llwybr heibio’r pwll dŵr ar y dde ac yn syth ar draws y prif lwybr.

4. Wrth gyrraedd y ffordd goncrid, trowch i’r chwith. Chwiliwch am y trac rheilffordd ar hyd y ffordd a oedd yn arfer cario glo o'r pwll glo. Yn fuan wedyn mae’r ffordd goncrid yn troi yn llwybr a dylech ddilyn y llwybr yn ôl i’r maes parcio.

Y llwybr treftadaeth a natur

Mae’r llwybr yn cynnwys cyfres o baneli dehongli a physt derw wedi’u cerfio, ar thema treftadaeth cloddio’r pwll a’i hanes naturiol. Mae’r llwybr cerdded yn arwain at y copa, ac yno fe welwch gerflun cloc haul mawr o löwr yn ogystal â golygfeydd o gefn gwlad godidog.

Mae’r cyfarwyddiadau’n dechrau o’r maes parcio. Os ydych chi’n dymuno dilyn y llwybr o fynedfa Ffordd Gwalia, cerddwch heibio'r pwll ar hyd y llwybr llydan i'r ail droad ar eich chwith. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod o bwynt 3 ymlaen.

1. Gadewch ochr bellaf y maes parcio a dilynwch y llwybr i fyny’r bryn, gan gymryd yr ail droad ar y chwith.

2. Dilynwch y llwybr gwastad a llydan hwn heibio'r llwybr cyntaf sy'n mynd i'r copa ar y dde, nes i chi gyrraedd yr ail lwybr ar y dde.

3. Dewch oddi ar y trac llydan ac ewch ar hyd y llwybr hwn i fyny’r bryn a chymerwch yr ail droad ar y dde.

4. Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi i fyny’r bryn nes i chi gyrraedd copa Bonc yr Hafod.

5. Ar ôl edmygu’r golygfeydd a’r cerflun, ewch heibio’r copa a chymerwch y llwybr igam ogam i lawr arglawdd serth gan droi i’r dde ar y llwybr ar waelod y arglawdd.

6. Os ydych chi’n dymuno dychwelyd i fynedfa Gwalia, dilynwch y llwybr hwn i lawr y bryn a chymerwch yr ail droad ar y dde. Dilynwch y trac llydan hwn nes i chi gyrraedd y fynedfa, fel arall dilynwch y llwybr i lawr i’r maes parcio.

Marchogaeth a beicio

Mae croeso i farchogwyr a beicwyr cyfrifol ddefnyddio unrhyw ran o’r 5 milltir o lwybrau yn y parc gwledig hwn, ond bydd angen i farchogwyr gasglu allweddi ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr i gael mynediad (manylion cyswllt).  Bydd angen i chi hefyd adael blaendal o £5 (ad-daladwy) a llenwi / llofnodi ffurflen syml.

Hanes y parc

Mae’r bryn yn weddillion gwastraff mwyngloddio a gloddiwyd o’r siafftiau a’r twneli glo tanddaearol. Roedd y pwll glo yn arfer cyflogi dros 1,900 o bobl leol, yn bennaf o bentrefi Rhos, Ponciau a Johnstown. Caewyd y pwll yn 1968.

Yng nghanol y 1990au, tirweddwyd y domen rwbel o’r lofa a gwellhawyd y pridd i ganiatáu plannu coed ac i laswelltir dyfu. Adlewyrchir llwyddiant y gwaith o adfer y domen rwbel yn y cynefinoedd hardd ac amrywiol sy'n bresennol yn Hafod.

Cyfeiriad / cyfarwyddiadau

Parc Gwledig Bonc yr Hafod
Ffordd Hafod,
Johnstown
Wrecsam LL14 6HF

Trowch tuag at Plassey oddi ar yr A483 ac ewch tuag at Johnstown. Cymerwch y troad cyntaf i’r dde am ‘Denis of Ruabon’. Mae maes parcio Hafod ychydig yn nes ymlaen ar y chwith.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)