Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau Afon Dyfrdwy yn Nyffryn Llangollen, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Sitting underneath the Cefn Viaduct, Tŷ Mawr provides some of the best scenery around.

Enillodd Tŷ Mawr achrediad Gwobr y Faner Werdd am y tro cyntaf yn 2006 ac mae wedi llwyddo i’w gadw byth ers hynny.

Mae yna lawer o anifeiliaid fferm i’w cyfarfod yn Nhŷ Mawr, fel defaid, moch a geifr. Gallwch hyd yn oed fwydo’r ieir a’r hwyaid buarth neu edmygu Carlos a Pedro y lamas, sy'n gwarchod ein defaid rhag llwynogod.

Gallwch fynd am dro o amgylch y parc gan ddilyn y llwybrau, neu eistedd ac ymlacio ar lan yr afon, ac os ydych yn ddigon ffodus efallai y gwelwch eogiaid yn neidio o'r dŵr.

Yn Nhŷ Mawr nid ydym yn defnyddio cemegau na phlaladdwyr ar y tir. Dyna pam fod gennym lawer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt ac yn yr haf mae ein dolydd gwair traddodiadol yn fôr o liw.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Codir tâl ar ymwelwyr y parc am barcio bob dydd.

Y tâl dyddiol yw £1, fodd bynnag gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw le parcio heb gyfyngiad amser.

Mae’r peiriannau talu ac arddangos wedi’u lleoli mewn mannau cyfleus yn y maes parcio. Dim ond arian parod a dderbynnir fel tâl gan y peiriannau.

Gall ymwelwyr hefyd ddewis talu trwy ddefnyddio system dalu ddi-arian JustPark.

Tocyn tymor

Gellir prynu tocyn tymor ar gyfer parcio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Pharc Gwledig Tŷ Mawr am gost o £50 y flwyddyn.

Mae tocynnau tymor ar gael i’w prynu ar-lein trwy ein e-siop.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Melin y Nant ond mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth bob amser ac ar dennyn o fewn yr ardaloedd dynodedig sydd wedi'u harwyddo. 

Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon. Mae bagiau baw cŵn ar werth yn y ganolfan ymwelwyr.

Digwyddiadau

Cynhelir digwyddiadau ar gyfer oedolion a phlant trwy gydol y flwyddyn yn Nhŷ Mawr. Mae rhestr o’r digwyddiadau a gynhelir yn y parciau gwledig yn ymddangos ar ein cronfa ddata digwyddiadau.

Trosolwg o’r parc

  • Maes parcio ar gael (codir tâl)
  • Llwybr cerdded cylch gyda rhai llethrau ond sy’n hygyrch i bawb
  • Toiledau (gan gynnwys toiledau i’r anabl a chyfleusterau newid babanod)
  • Addas i bartïon bysiau
  • Mae lluniaeth poeth ac oer ar gael ar y safle yn ‘Linden’s Coffee Barn’.
  • Trac BMX / Llwybr Heini / ardal chwarae

Cerdded

Llwybr Tŷ Mawrth (1 filltir)

Mae’r llwybr cylch hwn yn gyfanswm o ryw 1 filltir. Mae’n hawdd cerdded ar y llwybrau sydd wedi'u tarmacio ond mae rhai llethrau mewn mannau. Nid oes camfeydd. 

Dechreuwch y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr, ewch heibio’r ysgubor, ar draws y buarth tuag at y giât fawr. Trowch i’r dde gan ddilyn arwyddbost ‘Llwybr Tŷ Mawr’. Dilynwch y llwybr tarmac o amgylch y parc.

Taith gerdded y draphont a’r draphont ddŵr (4 milltir yno ac yn ôl)

Mae’r daith gerdded hon oddeutu 4 milltir o hyd ac yn cymryd oddeutu 2 awr os ydych yn cerdded ar gyflymder hamddenol. Mae cerdded yn y parc yn rhwydd ar wahân i ddau le lle mae grisiau. Nid oes camfeydd.

Wrth adael y ganolfan ymwelwyr cadwch i’r chwith o flaen yr ysgubor ac ewch i gyfeiriad Traphont dywodfaen Cefn. Mae’r llwybr tarmac yn mynd â chi trwy’r goedwig y trychfilod bach ac heibio i’r colomendy. Dilynwch y llwybr tarmac o dan fwâu uchel y draphont.

Daliwch i gerdded ar hyd ochr yr afon ac yna trowch i’r chwith i lawr y grisiau wrth arwydd ‘Traphont Ddŵr Pontcysyllte’. Dilynwch y llwybr ar hyd lan yr afon nes i chi gyrraedd gwaelod y draphont ddŵr. Dringwch y grisiau i’r top, mwynhewch y golygfeydd hyfryd, cyn mynd ôl yr un ffordd i’r ganolfan ymwelwyr.

Noddi anifail ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr

Lansiwyd y cynllun noddi yn 2006 a chafodd ei sefydlu fel ffordd i'r cyhoedd gynorthwyo anifeiliaid Parc Gwledig Tŷ Mawr. Fel noddwr rydych yn talu ffi blynyddol am eich anifail dewisedig ac am hynny cewch becyn noddwr. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys tystysgrif bersonol sy’n dangos yr anifail, enw’r noddwr a’r dyddiad y daethoch yn noddwr.

Cewch eich gwahodd i ddiwrnod arbennig lle gallwch gwrdd â’ch anifail wyneb yn wyneb dan oruchwyliaeth un o’n ceidwaid. Er enghraifft, os ydych yn noddi gafr gallwch ddod i’w bwydo ar eich ymweliad neu os ydych yn noddi cwningen gallwch eu mwytho a chael tynnu eich llun gyda'r anifail. 

Mae’r parc ar agor bob dydd o’r flwyddyn a gellir gweld yr anifeiliaid yn ystod y dydd, yn y tai anifeiliaid arbennig neu yn y caeau.

Y mathau o anifeiliaid y gallwch eu noddi yw:

  • Lamas
  • Defaid
  • Geifr 
  • Cwningod
  • Hwyaid
  • Ieir
  • Moch Cwta

Y gost

Y gost o noddi lama, dafad neu afr am flwyddyn yw £15, y gost am yr holl anifeiliaid eraill yw £10.

Cofrestrwch /Ei dalu

Dechreuwch rŵan

Caffi

Mwynhewch ddetholiad blasus o fwyd poeth ac oer sydd ar gael yn ‘Linden’s Coffee Barn’ a’r cwt hufen iâ.

Cyfeiriad a chyfarwyddiadau

Parc Gwledig Tŷ Mawr 
Lôn Cae Gwilym 
Cefn Mawr
Wrecsam
LL14 3PE

Mae Tŷ Mawr bum milltir i’r de o Wrecsam ym mhentref Cefn Mawr. Mae arwyddion brown a gwyn gyda ‘Parc Gwledig’ yn dangos y ffordd i’r parc. Dilynwch yr arwyddion hyn o droad Llangollen/Rhiwabon oddi ar yr A483.

Ar fws

O Wrecsam: Mae’r bws 2C gan Arriva yn rhedeg o Orsaf Fysiau Wrecsam bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ar wahân i wyliau banc ac yn pasio Gorsaf Drenau Rhiwabon cyn cyrraedd pentref Cefn Mawr.  

O Groesoswallt: Mae gwasanaeth bws Arriva 2 a 2A yn rhedeg bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ar wahân i wyliau banc o orsaf Croesoswallt trwy’r Waun cyn cyrraedd pentref Newbridge (0.3 milltir o Gefn Mawr).

Ar Drên

Y gorsafoedd trenau agosaf yw Rhiwabon (2 filltir i ffwrdd) a’r Waun (4 milltir i ffwrdd). Mae’r ddau drên yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)