Beth ydi Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd (Together Achieving Change/TAC)?

Mae Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd (TAC) yn ffordd o drefnu a chydlynu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc (rhwng 0-25 oed) a’u teuluoedd. Mae’r broses ar gael i bobl sydd ag amryw o anghenion ac sydd eisiau cymorth ataliol.

Tîm Cymorth TAC

Mae’r tîm cymorth yn cynnwys:

  • Cydlynydd TAC
  • Swyddogion TAC
  • Swyddogion Gweinyddol
  • Ymarferwyr Teulu Tîm o Amgylch y Plentyn
  • Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Tîm o Amgylch y Plentyn

Pwy gaiff ddechrau’r broses?

Gall unrhyw un sy'n gweithio gyda phlentyn, person ifanc neu deulu gychwyn y broses (e.e. athro, gweithiwr cymdeithasol addysg, nyrs ysgol, gweithiwr ieuenctid, cwnselydd neu aelod o’r tîm iechyd meddwl cymunedol neu’r Uned Hawliau Lles). 

Gall person ifanc neu riant hefyd ofyn am gael dechrau proses TAC drwy gysylltu â’r tîm Cymorth yn uniongyrchol. 

Sut mae'n gweithio?

Bydd y person sydd wedi siarad efo’r teulu/unigolyn ynglŷn â’r broses yn gorfod derbyn eu caniatâd i lenwi Ffurflen Asesu’r Teulu ar y Cyd (JAFF). Bydd y ffurflen yn amlygu’r meysydd y mae ar y teulu/unigolyn angen cymorth ychwanegol gyda nhw.

Ar ôl llenwi a dychwelyd y ffurflen hon i’n tîm, bydd Swyddog TAC yn cael ei enwi ar gyfer y teulu/unigolyn.

Bydd y swyddog, y teulu neu’r unigolyn a phawb sy’n gweithio gyda nhw yn cwrdd ac yn rhan o dîm TAC.

Cyfarfodydd TAC

Y Cydlynydd neu’r Swyddog TAC sy’n cadeirio’r cyfarfodydd. Ni fydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal os nad yw'r teulu/unigolyn yn gallu bod yn bresennol, a bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu ar ddiwrnod ac amser sy’n gyfleus. Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal ynglŷn â pha gymorth ychwanegol y mae modd ei gynnig i’r teulu/unigolyn.

Ar ddiwedd y cyfarfod gofynnir i bawb a ydyn nhw’n cytuno â’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud. Wedyn, bydd cynllun gweithredu yn cael ei lunio i nodi pwy sy’n gwneud beth i helpu’r teulu/unigolyn. Bydd y cynllun gweithredu yn cael ei lofnodi gan y teulu/unigolyn a bydd yn cael ei adolygu mewn cyfarfodydd dilynol.

Sylwadau am broses TAC

Diwrnod Lansio TAC

Adborth rhieni

Eglurodd ‘A’ wrth y grŵp bod proses TAC wedi’i dechrau ar gyfer ei fab ‘B’. Roedden nhw wedi bod yn cael trafferth efo ymddygiad B am naw mlynedd ond maen nhw rŵan wedi derbyn diagnosis o ADHD. Roedd B yn cael trafferth cymdeithasu, gwneud ffrindiau ac wedi’i wahardd o’r ysgol oherwydd ei ymddygiad. 

Ers dechrau’r broses yma mae B wedi cymryd rhan mewn cynlluniau chwarae dan oruchwyliaeth ac yn gweithio gyda gweithiwr cefnogi sy’n ymweld unwaith yr wythnos i gefnogi’r teulu a gwneud gwaith un-i-un gyda B.

Roedd ar A a B angen cymorth ychwanegol gan fod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd, a arweiniodd at chwalfa nerfol i A.

Mae pethau wedi gwella’n aruthrol i’r teulu.

Mae A rŵan yn y coleg yn dysgu darllen ac ysgrifennu, ac yn mynd i’r gampfa. Mae ei berthynas â B yn well, ac maen nhw’n dysgu sut i gyfleu eu hemosiynau. 

Mae B wedi derbyn lle yn uned ddyslecsia’r ysgol ac yn derbyn cymorth ychwanegol. 

Adborth rhieni

Bu i’r ysgol wneud atgyfeiriad i’r tîm TAC oherwydd bod apwyntiadau meddygol yn cael eu methu a’r fam yn ofni ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae gweithio gyda’r tîm TAC wedi magu hyder y fam o ran y rhwystrau yr oedd yn ei hwynebu. Derbyniodd y fam gymorth un-i-un gan y tîm Cefnogi Pobl ar gyfer diet ac arferion dyddiol. Daeth y cymorth hwn i ben ar ôl iddi fagu digon o hyder i ymdopi, ac mae hi wedi gwneud cynnydd ardderchog. Teimlai'r fam bod TAC wedi rhoi sicrwydd a phenderfyniad iddi lwyddo fel rhiant, a theimlo bod goleuni ym mhen draw’r twnnel.

Dyfyniad gan riant 

“Mae TAC wedi bod yn wych... maen nhw wedi fy helpu gydag addysg ‘D’ ac wedi bod yn gymorth mawr i'm gŵr.

“Mae gennym ni weithiwr teulu sy’n mynd â D am dro, ac mae hynny’n ysgafnhau'r pwysau ar y teulu. 

“Gyda chymorth y Cydlynydd rydym ni wedi llwyddo i gael diagnosis gan CAMHS ar gyfer D ac oni bai am hynny 'hogyn drwg’ fyddai D wedi bod. Roedd ein cydlynydd yn wych, doedd dim byd yn ormod o drafferth ac mae hi’n dal yn gefn i ni. 

Dw i’n gallu cysylltu â’r tîm ar unrhyw adeg gydag unrhyw broblem, ac maen nhw’n ateb pob cwestiwn.”

Sylwadau gwerthuso

Cyswllt Teulu

“Roedd TAC yn fuddiol iawn i’r teulu, a chael cydlynydd gwybodus a diduedd i hwyluso'r broses.”

“Mae’n gwella’r cydlynu a’r cyfathrebu rhwng asiantaethau, nad oedden nhw o bosibl yn gwybod amdan ei gilydd gynt.”

“Mae’n ymddangos ei fod wedi rhoi cryn dipyn o gymorth ac arweiniad i’r rhiant, a chyfle rheolaidd i rannu pryderon a llwyddiannau.” 

Cysylltwch â’r tîm

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, ffoniwch ein tîm Cymorth TAC ar 01978 295385.