|
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) wedi gofyn i bob sir (yn cynnwys ni yn Wrecsam!) gynhyrchu cynllun Plant a Phobl Ifanc sy’n egluro beth yr ydym am ei wneud yn y dyfodol fydd o fudd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Rhaid i ni ddefnyddio saith nod craidd LlCC. Mae’r saith nod craidd hyn yn seiliedig ar Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn sy’n dweud bod gan blant yr hawl i.
Gofynnwyd i bawb yng Nghymru feddwl am yr hyn sydd angen ei wneud dros y tair blynedd nesaf i gynorthwyo plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i gael y gorau allan o fywyd!
- Ddechrau teg mewn bywyd
- Amrediad cynhwysfawr o gyfleoedd addysg, hyfforddiant a dysgu
- Iechyd gorau posibl yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsploetiaeth
- Gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
- Gael eu trin â pharch a chael cydnabyddiaeth i ‘w hunaniaeth hiliol a diwylliannol
- Gartref a chymuned ddiogel
- Beidio â bod dan anfantais oherwydd tlodi
Bydd y cynllun hefyd yn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn ac yn gwneud yr hyn a ddywedon ni yr oeddem am ei wneud!!
Bydd yn cymryd ychydig amser i ni dynnu popeth at ei gilydd, ond mi ddylen ni allu rhoi gwybod i bobl beth yw’r prif syniadau erbyn diwedd mis Ionawr. Byddwn yn dweud pa syniadau y gallwn eu defnyddio yn y Cynllun Plant a Phobl Ifanc (PaPhI) newydd a pha rai na fedrwn eu defnyddio ar hyn o bryd, a pham.
Byddwn yn anfon drafft o’r Cynllun PaPhI allan i bobl gael golwg arno a rhoi sylwadau arno rhwng 26 Mai 08 a 15 Awst 08. Golyga hyn y bydd gennych 12 wythnos i ddarllen yr hyn a argymhellwn ac i roi eich barn arno inni. Byddwch yn gallu gweld eich syniadau yn y Cynllun drafft PaPhI. Wedyn gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol cyn y Cynllun PaPhI terfynol ym mis Medi 2008.
Gofalwch fod eich syniadau yn cyrraedd Fframwaith Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc drwy eu hanfon at Louise Hulme yn:
Tŷ Henblas, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam LL13 8AZ
NEU drwy e-bostio CYPconsult07@wrexham.gov.uk NEU, gallwch ffonio Louise ar 01978 292000
Cynllun Plant a Phobl Ifanc
Cynllun Plant a Phobl Ifanc
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Crynodeb) - Fersiwn PDF 945Kb
Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cwestiynau Ymgynghori) - Fersiwn PDF 150Kb
Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Deddf Plant 2004: Canllawiau Cynllunio
Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Deddf Plant 2004: Canllawiau Cynllunio
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Deddf Plant 2004: Canllawiau Cynllunio - Fersiwn PDF 540KB (cyswllt i'r safle allanol)
Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau: Canllawiau ar Gydweithio Lleol o dan Ddeddf Plant 2004 - Fersiwn PDF 204KB (cyswllt i'r safle allanol)
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|